Gyda thristwch mawr, rydym yn cyhoeddi marwolaeth Huw Tudor.
Sefydlodd Huw fusnes Gwerthu Tai llewyrchus 'Huw Tudor' ym Mhwllheli yn 1968, busnes gafwyd ei gymeradwyo am ei ymagwedd broffesiynnol adabyddus oedd wastad ar flaen ei amser gyda'i dechnoleg diweddara'
Cefnogwyd yn y busnes gan ei wraig Gaynor, a'i ferch Anna, fu'n gweithio yno am 26 mlynedd.
Mae athroniaeth ei broffesionyldeb wedi'w gario mlaen drwy ddwy genhedlaeth arall o'r busnes teuluol, a hynny gan ei fab Stephen, a'i wyres Catrin.
Roedd Huw yn gymrawd o'r 'Royal Institute of Chartered Surveyors' a cafodd ei wobrwyo gyda gwobr Oes yn 2015.
Cymerodd ran weithredol yn ei gymuned, yn Sylfaenydd ac yn Gadeirydd i'r 'Round Table' ym Mhwllheli, ac yn gadeirydd i 'Gymdeithas Defnyddwyr yr Harbwr Llyn a Phwllheli' yn ogystal a chadeirydd Porth Pwllheli, -sef grwp ffocws, â'r grym tu ol i sefydliad Yr Hafan ym Mhwllheli.
Gwasanaethodd Huw hefyd ar Bwyllgor Parc Cenedlaethol Eryri, a bu'n Ynad ar Fainc Pwllheli ac yn gadeirydd hyd at ei ymddeoliad.
Roedd Huw yn Flaenor yn y Capel ers y 60au.
Ymfalchiodd Huw yn fawr yn ei deulu, ei fusnes, ei hwylio a'i grefydd.
Cynhelir yr angladd yng Nghapel y Drindod Pwllheli am 1 o'r gloch, Ddydd Mercher y 22ain o Fawrth, yna ym Mynwent Deneio, â chroeso cynnes am dê angladd ym Mhlas Heli i ddilyn.