Annwyl
Mae ein gwaith rhith yn y swyddfa yn parhau i fod ar agor er gwaethaf bod y drws i’r swyddfa wedi cau!
Os ydych yn cael anhawster gyda’r rhent, neu unrhyw fater arall mae yn bwysig i chwi gysylltu gyda ni er mwyn i ni fod yn ymwybodol o’ch pryderon. Fe wnawn ein gorau i’ch cynorthwyo drwy’r cyfnod anodd yma.
Mae ein cyfundrefn rheolaeth yn parhau drwy ddefnyddio e-bost, gwasanaeth ar lein a’r ffôn. Os ydych eisiau i’n hysbysu unrhyw drwsio angenrheidiol adroddwch yn ôl atom defnyddiwch unrhyw o’r sustemau hyn os gwelwch y dda.
Mae ein gwaith yn casglu y rhenti yn parhau, ond gofynnwn i chwi dalu drwy trosglwyddiad banc. Fel mae llawer o denantiaid yn gwneud eisoes. Pe carech drefn tâl sefydlog ein manylion yw fel a ganlyn:-
defnyddiwch eich cyfeirnod tenantiaeth sef ; enw ein cyfrif ni H Tudor Clients Account, Rhif ein Cyfrif - 90814636, Côd didoli 40-37-30. Sut bynnag, os ydych angen ein cymorth gyda hyn cysylltwch a ni.
Byddwn yn parhau i brosesu y taliadau rhent i’r perchennog.
Byddwn yma, yn ystod yr amser anodd hyn i roi sylw i’ch gofynion yn enwedig os ydych yn y “Dosbarth Risg”.
Rydym yma hefyd i roddi cymorth i’n cleintiau ac ein cwsmeriaid gyda holl ofynion problemau eiddo, prynai ydych yn denant ar hyn o bryd neu yn ddarpar denant i un o’r tai sydd yn cael ei reoli gennym.
Rydym yn llwyddo i barhau i roddi’r gwasanaeth lefel uchaf oherwydd bod gennym dîm gwych o weithwyr proffesiynol, roddedig a pharod
Er hynny, gofynnwn am i chi ein cynorthwyo drwy ddefnyddio’r ffyrdd canlynol i gysylltu:-
* Bydd ein staff yn ateb galwadau teliffon yn y swyddfa neu drwy sustem galwadau ymlaen o’i cartrefi.
* Bydd derbyn ac ymateb i e-byst yn digwydd yn y swyddfa ac allan o’r swyddfa, felly gofynnwn i chwi fod yn amyneddgar gyda unrhyw ymholiad. Fe ofalwn weithio ddatrys holl faterion mewn cyn gynted a phosib a chymryd i ystyriaeth y rhwystrau sydd arnom.
* I gynorthwyo cael ymateb buan bydd ein staff i gyd yn cadw llygad ar yr e-byst a’r rhifau ffôn canlynol:-
01758 701 100 post@huwtudor.co.uk
Am y newyddion diweddaraf gan TUOR edrychwch ar ein safle we
www.huwtudor.co.uk
----------------------------------------------------------------
Rydym yn benderfynol i wneud ein rhan i leihau lledaeniad y clefyd a pharhau ein gwasanaeth broffesiynol ac yr un pryd yn lleihau y perygl i chwi ac ein staff
Byddwn yn parhau i ddilyn yr arweiniad gan ein cyrff proffesiynol RICS, ARLA a NAEA. Hefyd gyda’r cyngor a rheolau sydd yn cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth.
Cymerwn y cyfle hwn i ddiolch i chwi am eich cydweithrediad a gobeithio y byddwch yn ddiogel a iach
Stephen ac ati !!
Stephen Tudor MRICS FNAEA MARLA
Cyfarwyddwr H Tudor A'i Fab Cyf
Tudor - Asiant Eiddo a Syrfewyr Siartredig